Dyddiad yr Adroddiad

26/06/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202401087

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L fod Cyngor Caerdydd wedi methu â datrys y problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yr oedd yn eu profi gan ei gymydog.

Canfu’r Ombwdsmon fod swyddog ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi methu â chysylltu â Mr L fel y nodwyd yn ymateb y Cyngor i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr L. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael y Cyngor i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr L o fewn 4 wythnos ac ymateb yn nodi’r camau yr oedd wedi’u cymryd neu y byddai’n eu cymryd i fynd i’r afael â phryderon Mr L. Cytunodd y Cyngor hefyd i roi iawndal o £50 i Mr L i gydnabod yr amser a’r drafferth a gymerodd i gysylltu â’r Ombwdsmon.