Dyddiad yr Adroddiad

25/06/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ddinbych

Pwnc

Sŵn a materion niwsans arall

Cyfeirnod Achos

202401349

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Cyngor wedi gohirio gweithredu ynghylch ei gŵyn am sŵn ac nad oedd wedi ymateb yn sylweddol i’w gŵyn am ei wasanaeth.

Canfu’r ymchwiliad fod y ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â mater Mr A yn dal i fynd yn ei flaen, a oedd wedi arwain at oedi yn ei ymateb i gŵyn Mr A. Felly, nid oedd yn bosib dweud a oedd y Cyngor yn cytuno â phryderon Mr A neu’n eu gwrthod.

Er mwyn bwrw ymlaen â chwyn Mr A, cytunodd y Cyngor i ymateb i’w gŵyn o fewn 4 wythnos. Byddai Mr A yn gallu dychwelyd at yr Ombwdsmon gyda’i gŵyn maes o law os nad oedd yn fodlon ag ymateb terfynol y Cyngor.