Dyddiad yr Adroddiad

02/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202106464

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Eiriolwr Ms Y (“yr Eiriolwr”) ar ei rhan am y gofal a gafodd Ms Y yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd.
Fe wnaethom ymchwilio a oedd:
• rhwng 24 Rhagfyr 2020 a 13 Ionawr 2021, yn rhesymol bod Ms Y heb feddyginiaeth a allai fod wedi’i hatal rhag cael cyfnodau seicotig.
• Adeg rhyddhau Ms Y ar 13 Ionawr 2021, a gafodd ei phroblemau bwyta a chysgu, a’r “faner goch” yr oedd yn bwriadu mynd i’r orsaf drenau, eu hystyried yn briodol.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod rhoi’r gorau i roi meddyginiaeth wrthseicotig Ms Y yn briodol. Roedd Ms Y wedi gwrthod rhai meddyginiaethau ar sawl achlysur yn hytrach na meddyginiaethau ddim yn cael eu rhoi neu eu rhagnodi, ond ni chafodd hyn effaith sylweddol ar ei hiechyd. Canfuwyd nad oedd rhoi’r gorau i roi meddyginiaeth wedi arwain at ddirywiad clinigol Ms Y; ac nid oedd wedi arddangos unrhyw symptomau yn gysylltiedig â salwch seicotig, ac nid oedd yn ymddangos bod rhoi’r gorau i roi meddyginiaeth wedi achosi iddi weld rhithweledigaethau. Ni chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau.
Canfuwyd hefyd fod problemau bwyta a chysgu Ms Y wedi cael eu hystyried ac, adeg ei rhyddhau ar 13 Ionawr 2021, roedd Ms Y a’r tîm clinigol o’r farn ei bod wedi gwella. Ystyriwyd bod “baner goch” Ms Y ei bod yn bwriadu mynd i’r orsaf drenau yn sylw amhenodol a’i bod wedi’i hasesu’n briodol nad oedd mewn perygl clir o ladd ei hun. Ni chafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau ychwaith.