Adolygiad Annibynnol yn canfod bod proses penderfynu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn briodol, yn deg ac yn rhydd o unrhyw ragfarn wleidyddol. Daw’r Adolygiad i’r casgliad y dylai hyn roi sicrwydd i’r cyhoedd y gallant fod â ffydd a hyder yng ngwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’i Dîm Cod Ymddygiad.

Cefndir

Ar ôl canfod defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol gan gyn-reolwr tîm yng ngwanwyn eleni, mynegwyd pryderon am ddidueddrwydd ac annibyniaeth y swyddfa, yn enwedig mewn perthynas ag ymdrin â chwynion am gynghorwyr lleol a allai fod wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau.

Felly, comisiynodd yr Ombwdsmon adolygiad annibynnol, i sefydlu a fu’r prosesau, dirprwyaethau a phenderfyniadau mewn perthynas ag asesu ac ymchwilio i gwynion gan y Tîm Cod Ymddygiad, a’r cyn-reolwr tîm, yn gadarn ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol.

Penodwyd Dr Melissa McCullough* i arwain yr adolygiad.

 

Canfyddiadau Allweddol o’r Adroddiad

Daeth yr Adolygiad i’r casgliadau canlynol:

  • Mae prosesau a dirprwyaethau Cod Ymddygiad OGCC yn gadarn, o ran diogelu, tegwch a didueddrwydd.  Maent yn systematig, wedi’u dogfennu’n dda ac wedi’u hategu gan ganllawiau priodol ac mae angen cofnodi ac esbonio’r rhesymau dros benderfyniadau, fel y bo’n briodol.
  • Mae’r holl benderfyniadau yn seiliedig yn gyfan gwb ar dystiolaeth, ffeithiau ac ymresymiad cadarn ac wedi’i fynegi’n dda ac, fel y cyfryw, nid oedd unrhyw dystiolaeth o duedd wleidyddol.  Ni chanfu’r adolygiad achos unrhyw dystiolaeth bod y penderfyniadau ar unrhyw un o’r achosion a adolygwyd wedi’i ddylanwadu gan ymlyniad gwleidyddol yr unigolyn a wnaeth y gŵyn a/neu’r aelod y cwynwyd amdano.
  • Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y cyn-reolwr tîm wedi mynegi ei barn bersonol ar faterion gwleidyddol “yn debyg i’w postiadau cyfryngau cymdeithasol” yn y swydd a/neu wedi dylanwadu’n amhriodol ar unrhyw aelod arall o staff, wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Gwnaeth yr adolygiad argymhellion i wella’r mesurau diogelu presennol ar gyfer sicrhau tegwch a didueddrwydd.  Nodwyd y gwersi a ddysgwyd hefyd i leihau’r risg o’r math hwn o ddigwyddiad rhag digwydd eto yn y dyfodol.

 

Ymateb OGCC 

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r adroddiad hwn a’r cadarnhad fod y broses penderfynu, o ran cwynion Cod Ymddygiad, yn rhydd rhag rhagfarn wleidyddol.

Mae’r adolygiad hwn yn cydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan y Tîm Cod Ymddygiad ac rydym yn falch bod yr Adolygydd Annibynnol wedi datgan y dylai roi sicrwydd, i’r cyhoedd ac aelodau etholedig, fel y gallant fod â ffydd a hyder yng ngwaith OGCC.

Mae OGCC yn derbyn yr holl argymhellion a bydd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio i gryfhau polisïau ac ymarferion, recriwtio a hyfforddi mewnol ymhellach.

 

*Dr Melissa McCullough yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon (ers 2020) a hefyd Comisiynydd Safonau Cynulliadau Taleithiau Jersey a Guernsey (ers Mawrth 2023). Symudodd Melissa i Belfast o’r Unol Daleithiau yn 1994 a chael PhD o Brifysgol y Frenhines Belfast, Cyfadran Meddygaeth yn 1997. Mae hi wedi gweithio fel academydd yn y gyfraith, moeseg a phroffesiynoldeb yn y DU ac Iwerddon ers 2005. Mae Melissa hefyd yn meddu ar Dystysgrif Broffesiynol Uwch mewn Ymarfer Ymchwilio, gradd Meistr mewn Biofoeseg a Moeseg Gymhwysol a gradd Baglor yn y Gyfraith. Gwasanaethodd Melissa fel cyfarwyddwr anweithredol a benodwyd gan weinidog ar y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon o 2009 tan 2020 ac mae’n aelod o Bwyllgor Moeseg y BMJ ar hyn o bryd.