Cyflwyniad

Gall bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal neu bobl sy’n cael gofal yn y cartref dderbyn cyllid gofal iechyd parhaus y GIG i dalu am eu hanghenion gofal. Bydd angen i Fyrddau Iechyd, y dylid cyflwyno pob cais am gyllid iddynt yn y lle cyntaf, edrych ar anghenion gofal bob unigolyn yn fanwl i benderfynu ai gofal iechyd yw ei ‘brif angen’. Os oes ‘prif angen am ofal iechyd’ arno, mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd dalu am gostau gofal yr unigolyn hwnnw a/neu wneud trefniadau addas i ddiwallu ei anghenion gofal iechyd.

Gallwch ofyn i’ch Bwrdd Iechyd lleol asesu anghenion rhywun sy’n cael gofal ar hyn o bryd a/neu ofyn am asesiad o’i anghenion gofal yn y gorffennol. Fodd bynnag, erbyn hyn mae terfyn o un flwyddyn i’r cyfnod hawlio ar gyfer hawliadau gofal yn y gorffennol a ni fydd hawliadau am ofal cyn y cyfnod hwnnw bellach yn cael eu hedrych arnynt. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros peth amser i’ch hawliad gael ei ystyried.

Yr hyn gallwn ei wneud

Os ydych chi’n meddwl nad yw penderfyniad y Bwrdd Iechyd i wrthod cyllid gofal iechyd parhaus y GIG i chi, i berthynas i chi neu i rywun rydych chi’n gofalu amdano yn benderfyniad cywir, efallai y gallwn ni eich helpu. Fel arfer gallwn edrych ar eich cwyn os:

  • cafodd cais am asesiad neu adolygiad ei wrthod yn afresymol neu os cafodd ei oedi’n afresymol
  • os oedd proses asesu eich hawliad yn hynod ddiffygiol;
  • oedd y rheswm dros wrthod cyllid yn afresymol, yn ddiffygiol neu os nad oedd yn seiliedig ar dystiolaeth

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn wneud y canlynol:

  • cynnal ein hasesiad ein hunain o anghenion gofal iechyd;
  • eich helpu chi i wneud cais am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG (gall sefydliadau eraill eich helpu gyda hyn – darllenwch ‘rhagor o wybodaeth’ isod);
  • rhoi gwybod i chi a ddylai cyllid gofal iechyd parhaus y GIG fod wedi’i roi ai peidio neu ddisodli penderfyniad y Bwrdd Iechyd a mynnu ei fod yn talu cyllid gofal iechyd parhaus y GIG.

 

Materion i gadw mewn cof

Os byddwn yn cadarnhau eich cwyn, efallai y byddwn yn gwneud argymhellion i’r Bwrdd Iechyd ynghylch yr hyn y dylai ei wneud. Gallai hyn gynnwys cais i gynnal asesiad newydd o anghenion gofal iechyd, neu gynnal Panel newydd i ystyried eich apêl.

Gwybodaeth bellach

Efallai yr hoffech chi ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol i gael cyngor:

Gall Age Cymru gynnig gwybodaeth a chyngor. Gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn ar 08000 223 444 neu gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar eu gwefan – www.ageuk.org.uk/cymru/

Gall MIND gynnig cymorth a chyngor ar amrywiaeth o faterion iechyd meddwl – cysylltwch â nhw dros y ffôn ar 0300 123 3393 neu gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar eu gwefan www.mind.org.uk

Gall y Gymdeithas Alzheimer gynnig cymorth a chefnogaeth. Gallwch gysylltu â nhw ar 0300 222 11 22 neu gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar eu gwefan – www.alzheimers.org.uk

Gall Llais roi cyngor a chefnogaeth wrth wneud cwyn. Gallwch gysylltu â nhw ar 02920 235 558 neu mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan – www.llaiswales.org.

Gallwch gael manylion eich Bwrdd Iechyd lleol yn www.wales.nhs.uk/eingwasanaethau/cyfeiriadur

Gallwch gael manylion y broses o hawlio gofal iechyd parhaus y GIG yn www.gcsgc.org.uk/

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru