Cwynodd Ms D nad oedd Cyngor Tref Bwcle wedi dilyn proses recriwtio deg wrth gynnal 2 ymgyrch recriwtio ar gyfer swydd Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol. Roedd Ms D wedi gwneud cais ar y ddau achlysur a heb gael ei chynnwys ar y rhestr fer. Cwynodd Ms D hefyd ynghylch Polisi Recriwtio newydd a sefydlodd y Cyngor yn ddiweddarach a oedd yn ei rhwystro rhag cyflwyno cais arall pan ail-hysbysebwyd y swydd.
Nid oedd yr asesiad o gŵyn Ms D yn nodi unrhyw bryderon ynghylch y broses recriwtio a ddilynwyd pan gyflwynodd Ms D ei chais cyntaf. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd Ms D wedi cael ymateb i’w hail gŵyn, a oedd yn ymwneud â’r ail gais a wnaeth.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymateb i gŵyn Ms D am y ffaith na chafodd ei hail gais ei gynnwys ar y rhestr fer, o fewn 4 wythnos. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau y cytunwyd arnynt yn rhesymol i ddatrys y gŵyn a chafodd ei setlo ar y sail yma.
Penderfynwyd y dylai Ms D gwyno wrth y Cyngor am ei Bolisi Recriwtio newydd, yn y lle cyntaf, i roi cyfle iddo ymchwilio ac ymateb, cyn cyflwyno unrhyw gŵyn am y mater hwnnw i’r Ombwdsmon.