Cwynodd Mr P fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi gwrthod uwchgyfeirio ei bryderon i Gam 2 ei broses Cwynion Corfforaethol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwrthod uwchgyfeirio ei bryderon yn unol â’i broses Cwynion Corfforaethol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr P. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr P i ymddiheuro ac am wrthod uwchgyfeirio ei bryderon ac i gyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 2 o fewn pythefnos.