Cwynodd Mr A nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nac ymateb i’w gŵyn am beidio â chydnabod nac ymateb i’w ohebiaeth flaenorol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chydnabod nac ymateb i unrhyw ohebiaeth gan Mr A ar bwnc penodol yn afresymol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Llywodraeth Cymru i ymddiheuro i Mr A, ymateb i’r gŵyn, cydnabod gohebiaeth yn y dyfodol, darparu sail resymegol dros unrhyw benderfyniad i beidio ag ymateb a rhoi gwybod i Mr A sut y bydd unrhyw benderfyniadau i gyfyngu ar ohebiaeth yn cael eu hadolygu. Cytunodd Llywodraeth Cymru i roi’r cam ar waith cyn pen 10 diwrnod gwaith.