Cwynodd Miss F nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymateb i’r gŵyn a gyfeiriwyd ato gan yr Ombwdsmon ym mis Gorffennaf.
Canfu’r Ombwdsmon fod diffyg cyfathrebu wedi bod rhwng y timau a oedd yn ymdrin â’r gŵyn a’i bod wedyn wedi cael ei anwybyddu. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Miss F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss F, i dalu iawndal o £150 iddi ac i ddarparu ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.