Dyddiad yr Adroddiad

31/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202303599

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Roedd cwyn Mrs A ynghylch a oedd safon y gofal a ddarparwyd gan Ysbyty Glangwili Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“yr Ysbyty”) i’w diweddar dad (“Mr B”) yn ystod ei dderbyniad fel claf mewnol rhwng 21 Tachwedd a 6 Rhagfyr 2021 yn briodol. Roedd Mrs A yn holi a gafodd y dos cywir o wrthfiotigau ei ragnodi i’w thad am y cyfnod cywir. Cwestiynodd a oedd pelydr-X o’r frest ar 6 Rhagfyr yn awgrymu haint heb ei ddatrys na fyddai wedi datblygu pe bai gwrthfiotigau wedi parhau drwy gydol derbyniad ei thad, yn hytrach na chael ei gychwyn, ei stopio a’i ailddechrau ac a oedd angen pelydr-X pellach.

Holodd Mrs A a oedd y therapi ocsigen a ddarparwyd i Mr B yn briodol ac a ddylai’r ffaith bod arno angen uchafswm o ocsigen fod wedi ysgogi adolygiad pellach a/neu amheuaeth ei fod yn dirywio’n derfynol. Holodd hefyd ynghylch prydlondeb ac amlder yr atgyfeiriad i’r Uned Haematoleg a Gofal Dwys.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr B yn cael gwrthfiotigau dyddiol a bod rhain wedi parhau tan 3 Rhagfyr, ac roedd wedi derbyn y dosau llawn o wrthfiotigau am y cyfnod gorau posib. Roedd canser sylfaenol Mr B yn golygu bod ei imiwnedd wedi’i beryglu’n ddifrifol, ac felly nid oedd yn ymateb i’w driniaeth wrthfiotig. O ystyried bod y pelydr-X o’r frest a gymerwyd ar 6 Rhagfyr yn dangos bod Mr B wedi datblygu niwmonia, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn yn glinigol y byddai pelydrau-X pellach o’r frest wedi ychwanegu unrhyw beth mwy ac na fyddai wedi’u cyfiawnhau.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr B yn cael uchafswm therapi ocsigen. Yn anffodus, fe wnaeth ei niwmonia (haint manteisgar (mae’r rhain yn heintiau sy’n digwydd yn amlach a/neu sy’n fwy difrifol i bobl sydd â systemau imiwnedd gwan) o ganlyniad i’w gyflwr imiwnedd gwan) rwystro’r budd a gafodd o’r ocsigen. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na fyddai adolygiad pellach gan y Tîm Haematoleg a’r Uned Therapi Dwys wedi newid rheolaeth Mr B na’i ganlyniad yn y pen draw. Ym mis Mehefin 2020, roedd y Tîm Haematoleg wedi nodi nad oedd dim byd arall y gallai ei wneud i Mr B a’i fod ar gyfer gofal lliniarol yn unig. Yn erbyn y cefndir hwn, ni allai’r Ombwdsmon fod yn feirniadol ynghylch amseriad/amlder yr atgyfeiriadau a wnaed i’r Timau Haematoleg neu’r Uned Therapi Dwys. Ni chadarnhawyd cwynion Mrs A.