Cwynodd Mrs A fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu â bodloni’r anghenion gofal cymdeithasol a nodwyd ar gyfer ei merch, B. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi methu â gweithredu argymhellion a oedd wedi’u cynnwys mewn ymchwiliad annibynnol a gwblhawyd o dan Gam 2 Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.
Mewn ymateb i ymchwiliad yr Ombwdsmon, cynigiodd y Cyngor setliad i ddatrys cwyn Mrs A.
Yn dilyn trafodaethau gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor, o fewn 3 mis, i drefnu asesiad newydd o anghenion B ac i gadarnhau gyda’r staff dan sylw ei fod wedi derbyn canfyddiadau penodol ymchwiliad Cam 2. Cytunodd hefyd i rannu gyda thimau gwasanaethau cymdeithasol perthnasol fod ganddo’r pŵer i drefnu taliadau uniongyrchol i ariannu cymorth lle gallai fod disgwyliad i ofalwyr roi meddyginiaeth frys, ac y gellir hwyluso hyn drwy drefnu hyfforddiant ac yswiriant priodol. Yn olaf, cytunodd y Cyngor i ddiweddaru ei Bolisi Taliadau Uniongyrchol o fewn 3 mis i egluro nad yw eithrio gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd o’r mathau o gymorth y gall eu darparu yn berthnasol pan fo’r gwasanaethau hynny’n “ddamweiniol neu’n ategol” (a ddarperir ochr yn ochr â cham gweithredu arall neu i’w gefnogi) i wneud rhywbeth arall i ddiwallu anghenion dinesydd.
Daeth yr Ombwdsmon â’r ymchwiliad i ben ar y sail bod y camau gweithredu uchod yn rhesymol i ddatrys cwyn Mrs A.