Dyddiad yr Adroddiad

10/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202400620

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Dr A am benderfyniad y Bwrdd Iechyd i beidio â chynnig iawndal ariannol i’w fam, Mrs B o dan y Cynllun Gwneud Iawn a oedd wedi’i gynnwys yn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau). Dywedodd Dr A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cwblhau asesiad cyfredol o anabledd Mrs B, na ddarparwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi y byddai’r swm iawndal yn fwy na £25,000 ac nad oedd barn Mrs B wedi’i cheisio a’i hystyried.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i’r canlynol:

a) Yn unol â Rheoliad 32 o’r Rheoliadau, bydd cyngor cyfreithiol, yn ddi-dâl (hyd at y terfyn o £1,600 ynghyd â TAW) ar gael i Dr A ystyried penderfyniad y Bwrdd Iechyd i wrthod gwneud cynnig o iawn ariannol o dan y Cynllun Gwneud Iawn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu rhestr o Gyfreithwyr i Dr A a’r wybodaeth angenrheidiol am gyllid o fewn 14 diwrnod.

b) Ar ôl i Dr A gael cyngor cyfreithiol (os yw’n dewis gwneud hynny), bydd y Bwrdd Iechyd yn rhoi ystyriaeth bellach (yn unol â Rheoliad 29(3)) i wneud cynnig o setliad y tu allan i ddarpariaethau’r Rheoliadau.

c) Bydd y Bwrdd Iechyd yn sicrhau ei fod yn hysbysu pob achwynydd yn ysgrifenedig y gellir ceisio cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim (o dan Reoliad 32) os bydd yn penderfynu peidio â chynnig iawn ariannol o dan y Rheoliadau.