Dyddiad yr Adroddiad

05/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Addysg

Cyfeirnod Achos

202400656

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymateb yn llawn i’r gŵyn a wnaeth.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Cyngor i gŵyn wedi mynd i’r afael â pham y gofynnwyd iddo gyfyngu ar ei gyfathrebiadau ym mis Rhagfyr 2023.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor, y byddai’n darparu ymateb diwygiedig i gŵyn Cam 2 o fewn 20 diwrnod gwaith, gan egluro ei gyfiawnhad dros ofyn i Mr A gyfyngu ar ei gyfathrebiadau.