Dyddiad yr Adroddiad

19/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202400680

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms J ar ran ei Chleient, Ms X, nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i gŵyn a godwyd ym mis Chwefror 2024.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd o fewn yr amserlen 6 mis a nodir yn Rheoliadau’r GIG, nad yw wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms J na Ms X. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms X.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 2 wythnos. Cytunwyd hefyd, os na ellir cyflawni’r amserlen hon, y byddai’n anfon llythyrau diweddaru ystyrlon bob mis.