Cwynodd Mr A am ymateb y Feddygfa i gŵyn am reolaeth a gofal ei fam ym mis Chwefror 2024. Cwynodd Mr A hefyd am gyfnod diweddarach o ofal (ym mis Ebrill) nad oedd y Practis Meddyg Teulu wedi cael cyfle i’w ystyried.
Defnyddiodd yr Ombwdsmon ei disgresiwn a phenderfynodd ymchwilio i’r agwedd hon ar gŵyn Mr A.
Fel rhan o’r setliad, gofynnwyd i’r Feddygfa ddarparu ymateb ysgrifenedig i fynd i’r afael â’r pryderon penodol yr oedd Mr A wedi’u codi ynghylch rheolaeth ei fam ym mis Chwefror; ymddiheuro i Mr A a’i fam am y diffygion wrth ymdrin â’r gŵyn a’r trallod yr oedd diffygion yn yr ail gyfnod o ofal wedi’u hachosi iddynt.
Yn ogystal â hyn, roedd gofyn i’r Practis Meddygol atgyfnerthu ffiniau clinigol/anghlinigol priodol mewn fforwm priodol i staff anghlinigol yn ystod rhyngweithiadau cleifion a fyddai’n cynnwys sefyllfaoedd lle mae angen mewnbwn clinigol, yn ogystal ag adolygu cyfnod gofal mis Ebrill a nodi meysydd i’w dysgu. Yn olaf, os nad yw hyn eisoes ar waith, dylai’r Practis Meddyg Teulu sicrhau bod cyswllt cleifion â staff anghlinigol yn cael ei gofnodi’n briodol yng nghofnodion clinigol y claf.