Cwynodd Ms Q nad oedd Cyngor Sir Powys wedi ymateb i gŵyn a godwyd am y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi prosesu cwyn Ms Q yn ôl y disgwyl, o dan ei broses gwyno. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms Q. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gofnodi cwyn o dan Gam 2 o’i broses gwyno ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ac i ysgrifennu at Ms Q, o fewn 2 wythnos, gydag ymddiheuriad ac eglurhad o beth aeth o’i le a’r ffordd yr ymdriniodd â’i chwyn.