Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi cymryd gormod o amser i ymateb i’w chwyn. Cwynodd hefyd am yr ymateb i fater a gyfeiriwyd at y Bwrdd Iechyd gan yr Archwilydd Meddygol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 30 diwrnod gwaith, yn ysgrifennu at Ms A i ymddiheuro am yr oedi wrth ymateb i’r gŵyn. Byddai hefyd yn rhoi esboniad pellach am y mater a atgyfeiriwyd gan yr Archwilydd Meddygol.