Dyddiad yr Adroddiad

17/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202401491

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd Mr B yn anhapus nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb yn llawn i’r pryderon a godwyd ganddo.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi rhoi esboniadau llawn am y camau yr oedd wedi’u cymryd ac nid oedd wedi ymateb i bryder Mr B a oedd wedi gwneud iddo deimlo bod llawdriniaeth ar ei glun ar fin digwydd.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr B am beidio â mynd i’r afael yn llawn â’i bryderon, i ddarparu ymateb wedi’i ddiweddaru i’w gŵyn, ac i roi diweddariad mewn perthynas â’i gynllun triniaeth, o fewn 20 diwrnod gwaith.