Dyddiad yr Adroddiad

08/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202401558

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms E nad oedd Cyngor Bro Morgannwg wedi darparu ymateb i’w chŵyn, a wnaeth iddo ym mis Ebrill 2024.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi cyn i’r Cyngor ymateb i gŵyn Ms E a dim ond ar ôl i Ms E gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon y cyhoeddodd ei ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod yr oedi wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms E a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms E gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi wrth roi ymateb i’w chwyn, ymddiheuro ymhellach am iddo fethu ag ymateb i holl ohebiaeth Ms E a chynnig talu iawndal o £75 i Ms E am ei hamser a’i thrafferth yn dod â’i chŵyn at yr Ombwdsmon o fewn wythnos.