Cwynodd Mr T fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â darparu ymateb i’w gŵyn a wnaeth iddo ym mis Gorffennaf 2023.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr T am yr oedi, rhoi diweddariad llawn ar statws ei ymateb i’r gŵyn, a chynnig talu £100 o iawndal o fewn pythefnos. At hynny, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i gŵyn o fewn 6 mis a darparu diweddariadau misol.