Cwynodd Mr T nad oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymateb i’w gŵyn a’i fod yn achosi oedi bwriadol wrth ddelio â mater cynllunio.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i gŵyn i Mr T o fewn amserlen resymol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr T am yr oedi ac i egluro pam y digwyddodd hyn. Cytunodd y Cyngor hefyd i ddarparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn wythnos a chynnig iawndal o £50 i Mr T am yr amser a’r drafferth a gymerodd i fynd at yr Ombwdsmon.