Dyddiad yr Adroddiad

09/07/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Rheoli ystâd yn yr awyr agored (gan gynnwys gwrychoedd ac ati)

Cyfeirnod Achos

202401754

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd Ms A yn anhapus â’r diffyg gweithredu gan Gymdeithas Tai Hafod tuag at gynnal coeden yn ei gardd.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas yn cymryd camau mewn perthynas â’r goeden, y bu oedi sylweddol. Ymhellach, canfuwyd bod y Gymdeithas yn aros am ganiatâd ac amserlen amcangyfrifedig ar gyfer gwaith gan gorff cyhoeddus arall. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Ms A am yr oedi, cadarnhau y bydd gwaith yn cael ei wneud ar y goeden a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms A am ei chyfathrebu â’r corff cyhoeddus arall, o fewn 20 diwrnod gwaith.