Dyddiad yr Adroddiad

23/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202401795

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi methu ag ymateb i gŵyn a godwyd ganddo ym mis Mawrth 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi derbyn cwyn ond ei fod wedi methu oherwydd ei bod wedi’i derbyn gyda manylion cyswllt anghywir. Canfu hefyd fod y Cyngor wedi bod yn cysylltu â Mr S ond wedi methu â chydnabod y cyfeiriad at gŵyn na gweithredu arno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gofnodi cwyn ffurfiol. Ac i ysgrifennu at Mr S, o fewn wythnos, yn cadarnhau bod y gŵyn wedi’i chofnodi a chynnwys ei hymddiheuriad gydag esboniad o’r hyn aeth o’i le.