Dyddiad yr Adroddiad

15/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ddinbych

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202401896

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd y Parchedig X fod Cyngor Sir Ddinbych wedi methu ag ymateb i’w e-bost yn dilyn ei ymateb cam 2.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod Cyngor Sir Ddinbych wedi methu ag ymateb i’r Parchedig X er iddo ddweud wrthi am gysylltu ag ef pe bai angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad arni yn dilyn ymateb cam 2. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i’r Parchedig X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Cyngor Sir Ddinbych i gyhoeddi ymateb pellach i egluro pa fesurau y gall y Cyngor eu cymryd neu na allant eu cymryd mewn perthynas â mesurau gostegu traffig posibl.