Dyddiad yr Adroddiad

15/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202402025

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwrthod ymchwilio i’w chŵyn am y gofal seibiant a gomisiynwyd ganddo ar gyfer ei thad.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi camhysbysu Ms A, oherwydd bod y cartref gofal mewn ardal wahanol, na allai ymdrin â’r gŵyn a bod rhaid iddi gysylltu ag awdurdod lleol arall am ymateb. Achosodd hyn oedi diangen. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig ymddiheuriad i Ms A nad oedd wedi derbyn ei chwyn, a bod rhaid iddi fynd at awdurdod lleol gwahanol a’r Ombwdsmon i gael ymateb. Cytunodd y Cyngor hefyd i ymchwilio i gŵyn Ms A o dan Gam 2 proses gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn 30 diwrnod gwaith.