Cwynodd Ms A ei bod yn anhapus gyda’r ffordd yr ymatebodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i’w chŵyn am y ffordd y cafodd ei thrin fel perthynas ac ymwelydd i’w diweddar fam.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd na allai ymchwilio i’r gŵyn heb gwblhau ffurflen ganiatâd gan y sawl a benodwyd i reoli ystad ei mam.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi camddeall pryderon Ms A ynghylch gofal a thriniaeth ei mam. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gydnabod cwyn Ms A ac ymateb iddi o fewn 30 diwrnod gwaith.