Dyddiad yr Adroddiad

31/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202402286

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms T am y ffordd wnaeth meddyg gyfathrebu â hi yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Dywedodd Ms T ei fod yn anghwrtais, yn ddiystyriol, nad oedd yn gwrando arni ac nad atebodd ei chwestiynau. Cwynodd Ms T hefyd fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb i gŵyn ac na chafodd ei diweddaru’n rheolaidd.

Nododd yr asesiad o gŵyn Ms T fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn cynnwys ymddiheuriad gan y meddyg, a gadarnhaodd y byddai’n myfyrio ar y pryderon a godwyd wrth symud ymlaen. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau hyn yn rhesymol. Nododd hefyd fod oedi wrth ymdrin â chŵyn Ms T, gan gynnwys nad ymatebwyd i’w chŵyn gychwynnol, a wnaed ar 19 Chwefror 2024, felly bu’n rhaid iddi gyflwyno cwyn bellach ar 20 Mawrth 2024. Ni chafodd ei diweddaru chwaith.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 4 wythnos, i roi ymateb pellach i gŵyn Ms T. Byddai hyn yn cynnwys ymchwiliad i’r modd yr ymdriniwyd â’i chŵyn. Byddai hefyd yn cynnwys ymddiheuriad am yr oedi cyn cyhoeddi’r ymateb ac am beidio â’i diweddaru yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau y cytunwyd arnynt yn rhesymol a chafodd cwyn Ms T ei chau ar y sail hon.