Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’w gŵyn, a wnaethpwyd iddo ym mis Mehefin 2023, ac nad oedd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi annerbyniol cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r achwynydd, yn ogystal â diffyg diweddariadau rheolaidd neu ystyrlon i Mr X, a dywedodd bod hyn wedi bod yn rhwystredig iddo. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr X am yr oedi a’r diffyg diweddariadau, i egluro’r rhesymau am hyn, i gynnig taliad iawndal o £250 iddo ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.