Cwynodd Ms P, er iddi wneud cwyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar dad ar 21 Tachwedd 2023, nad oedd wedi darparu ymateb i’r gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi ymateb i gŵyn Ms P a’i fod wedi oedi cyn ceisio’r caniatâd angenrheidiol pan oedd ei thad yn fyw. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms P a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms P i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd ac i roi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.