Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymddiheuro’n briodol nac wedi egluro’r rhesymau am yr oedi cyn ymateb i’w chŵyn am ofal ei gŵr.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnig ymddiheuriad yn ei ymateb ond wedi methu ag egluro’r rhesymau dros yr oedi cyn ymateb, a dywedodd yr Ombwdsmon ei fod wedi achosi straen ychwanegol i Mrs A a’i gŵr.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am y straen ychwanegol a achoswyd i Mrs A a’i gŵr oherwydd yr oedi ac i egluro’r rhesymau dros yr oedi o fewn 4 wythnos.