Cwynodd Mrs A fod y Gymdeithas Dai wedi gwneud rhai atgyweiriadau, ond nad oedd y gwaith yn cyrraedd y safon. Nododd y problemau y mae hi wedi’u cael gyda’r contractwyr heb gadw at yr amseroedd apwyntiadau y cytunwyd arnynt.
Er mwyn datrys pryderon Mrs A, cadarnhaodd y Gymdeithas Dai y byddai’n cysylltu â Mrs A i gytuno ar y gwaith sy’n weddill yn yr eiddo a bydd yn sicrhau, ar gyfer gwaith yn y dyfodol, mai’r dyddiad a’r amser ar gyfer gwneud y gwaith yw’r rheini sydd wedi’u trefnu ar y cyd.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau y dywedodd y Gymdeithas Dai y byddai’n eu cymryd yn rhesymol ac roedd o’r farn bod y mater wedi’i setlo ar y sail hon.