Dyddiad yr Adroddiad

19/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202403053

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Rhagfyr 2023.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi hwyluso cyfarfod wyneb yn wyneb ac wedi darparu diweddariadau, ei fod wedi methu â chyhoeddi ymateb i gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms K a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms K gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.