Dyddiad yr Adroddiad

02/08/2024

Achos yn Erbyn

Estyn

Pwnc

Addysg

Cyfeirnod Achos

202207770

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn cwyno ar ran nifer o unigolion (“y Cyngor”), ynghylch y ffordd yr oedd Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Estyn”) wedi delio â chŵyn yr oedd wedi’i chodi ar ran nifer o unigolion. Roedd y gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad proffesiynol un o Arolygwyr Ei Fawrhydi (“AEF”) a gyflogir gan Estyn. Fe wnaethom ymchwilio i’r ffordd yr aeth Estyn ati i ymdrin â’r gŵyn a gafodd ei chyfeirio ati gan y Cyngor, ac yn enwedig a oedd Estyn wedi darparu ymateb diduedd a chytbwys.

Canfu’r Ombwdsmon fod Estyn wedi ymchwilio i gŵyn y Cyngor yn unol â’i pholisi cwynion mewnol a’r canllawiau cysylltiedig. Roedd y Swyddog Ymchwilio yn berson priodol i ystyried y gŵyn ac roedd wedi’i hyfforddi’n briodol i ddelio â chwynion heb unrhyw wrthdaro buddiannau. Roedd y dystiolaeth a ystyriwyd yn briodol ac yn gymesur â difrifoldeb yr honiadau. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y Swyddog Ymchwilio wedi ystyried tystiolaeth amherthnasol, ac roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod teimladau’r achwynwyr a’r tystion, yn ogystal â dyletswydd gofal Estyn tuag at AEF wedi cael eu hystyried mewn modd priodol.  Cynigiwyd ymddiheuriadau am yr elfennau hynny o’r gŵyn a gadarnhawyd a lluniwyd cynllun gweithredu mewnol i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd drwy brosesau mewnol a chyflogaeth.

Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon fod polisi cwynion Estyn yn gofyn yn bendant am ganfyddiad absoliwt ac nad oedd yn caniatáu dull mwy hyblyg mewn achosion lle gallai fod yn anodd cyflawni hyn yn absenoldeb tystion annibynnol neu dystiolaeth ategol. Ar sail y dystiolaeth, canfuwyd y dylai Estyn fod wedi cynnwys asesiad cyffredinol o hygrededd y tystion hefyd, gan gynnwys goblygiadau patrwm yr honiadau a’r anghydbwysedd pŵer rhwng AEF a’r achwynwyr. Yn olaf, gallai’r wybodaeth fanwl a gafodd yr Ombwdsmon am gynllun gweithredu Estyn, a sut aethpwyd i’r afael â’r materion a nodwyd yn fewnol, fod wedi cael ei hamlinellu yn yr ymateb i gŵyn yr Awdurdod Lleol ar yr un pryd â chynnal lefel briodol o gyfrinachedd ynghylch materion cyflogaeth.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn yn rhannol ac argymhellodd y dylai Estyn ymddiheuro am y diffyg a nodwyd mewn perthynas â’i Pholisi Cwynion ac y dylai Estyn adolygu’r Polisi hwnnw a’i dull gweithredu.