Dyddiad yr Adroddiad

14/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202306602

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C am y gofal a gafodd ei merch, Ms A, gan y Bwrdd Iechyd. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd rhyddhau Ms A o’r ysbyty ar 21 Tachwedd 2022 yn briodol o safbwynt clinigol.

Canfu’r Ombwdsmon fod Ms A wedi cael ei rhyddhau heb asesiad llawn o’i hanawsterau llyncu, ar ôl cael ei hatgyfeirio at y tîm Therapi Lleferydd ac Iaith (“SALT”). Nid oedd yn glir a allai oddef y meddyginiaethau gwrthfiotig drwy’r geg a roddwyd iddi, a chafodd ei rhyddhau heb bresgripsiwn ar gyfer tewychydd hylif a allai fod wedi gwneud gwahaniaeth i allu Ms A i oddef y feddyginiaeth honno. Hefyd, nid oedd unrhyw gydlynydd rhyddhau amlwg na chofnodion i ddangos a oedd gan Ms A unrhyw anghenion cymorth pellach cyn iddi gael ei rhyddhau. Er nad oedd hyn o bosibl wedi gwneud gwahaniaeth i’r canlyniad yn y pen draw, roedd hyn yn anghyfiawnder i Ms A a’i theulu. Roedd rhyddhau Ms A yn annerbyniol, gan na roddwyd y gofal a’r ystyriaeth briodol i’w hamgylchiadau ar yr adeg heriol iawn honno. Felly, cafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i deulu Ms A am y methiannau a nodwyd, a sicrhau bod adroddiad yr Ombwdsmon a’i ganfyddiadau’n cael eu rhannu â staff clinigol, er mwyn i staff allu myfyrio ar y methiannau a nodwyd. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd ddarparu tystiolaeth i ddangos ei fod wedi rhoi gwelliannau ar waith ac wedi cymryd y camau gweithredu y mae’n honni iddo eu cymryd, wrth ymchwilio i gŵyn Mrs C.