Cwynodd Mrs A am safon y gofal a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru (“yr Ysbyty”). Yn benodol, cwynodd y dylai fod wedi cael diagnosis o emboledd ysgyfeiniol cyn iddi gael ei rhyddhau o’r Ysbyty. Gwnaed diagnosis o hyn 4 diwrnod yn ddiweddarach mewn ysbyty gwahanol.
Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn. Canfuom fod y gwaith o reoli ac ymchwilio’n glinigol i symptomau Mrs A yn yr Ysbyty yn briodol. Nid oedd y canfyddiadau clinigol yn dangos presenoldeb emboledd ysgyfeiniol bryd hynny. Roedd y penderfyniad i ryddhau Mrs A o’r Ysbyty yn un rhesymol.