Cwynodd Mr V am Gyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) a sut roedd wedi cynnal asesiad nad oedd, yn ei farn ef, yn gadarn ac yn llawn gwallau ac anghywirdeb. Roedd Mr V hefyd yn anfodlon ar ymdrechion y Cyngor i fesur cylch troi ei gadair olwyn. Roedd ymateb y Cyngor i gŵyn Cam 2 yn argymell y dylai gynnal asesiadau newydd ond nid oedd hyn wedi digwydd erbyn i Mr V gysylltu â’r Ombwdsmon.
Cynigiodd yr Ombwdsmon setliad ar gyfer y gŵyn. Cytunodd y Cyngor i gymryd y camau canlynol o fewn mis:
1. Ymddiheuro i Mr V am yr oedi parhaus cyn cyflawni argymhellion yr adroddiad Cam 2.
2. Cynnal asesiad Gwaith Cymdeithasol ac asesiad Therapi Galwedigaethol, a chytuno ar gynlluniau cymorth, cyn gynted â phosibl. Bydd y 2 asesiad yn cael eu cynnal ar wahân.
3. Mesur cylch troi cadair olwyn Mr V cyn gynted â phosibl.
4. Gwneud taliad o £150 i Mr V am yr amser a’r drafferth o orfod gwneud cwyn i’r Ombwdsmon.