Cwynodd Miss B am oedi cyn i’r Cyngor atgyweirio to oedd yn gollwng a bod hyn wedi achosi i leithder a llwydni yn yr eiddo waethygu, yn bennaf yn yr ystafell wely. Nododd Miss B fod ei 2 blentyn iau, y ddau ag asthma, hefyd yn rhannu’r ystafell wely hon. Dywedodd Miss B fod ei merch ieuengaf wedi datblygu peswch parhaus am fwy na 4 wythnos ac roedd Miss B yn teimlo bod hyn yn rhannol oherwydd y sborau llwydni yn yr ystafell wely. Ychwanegodd Miss B fod hyn wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl gan ei bod yn poeni’n gyson am iechyd ei phlant.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r gwaith gael ei gyflawni. Cafodd y gwaith ei gwblhau wedyn, a threfnodd y Cyngor arolygiadau dilynol. Cododd hefyd archeb waith i’r ystafell dan sylw gael ei pheintio gan ddefnyddio paent gwrth-leithder. Er bod y Cyngor wedi dweud nad oedd Miss B wedi gwneud unrhyw adroddiadau o leithder neu lwydni ers 2022, dangosodd cofnodion y Cyngor fod Miss B wedi adrodd bod llwydni yn yr ystafell fyw ym mis Ebrill 2024. Nid oedd yn glir o gofnodion y Cyngor beth oedd wedi digwydd mewn perthynas â hyn. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus y gallai achos Miss B adlewyrchu achosion eraill lle na nodir neu ymdrinnir ag adroddiadau o lwydni neu leithder. Rhoddwyd sylw i hyn fel rhan o’r setliad.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Miss B am y gwaith hwyr ac adolygu ei brosesau atgyweirio i sicrhau eu bod yn ddigon cadarn i fynd i’r afael ag achosion o leithder a llwydni. Yn ogystal, pe na bai eisoes yn gwneud hynny, byddai’n tynnu lluniau o’r lleithder a’r llwydni lle mae’n cael ei adrodd fel rhan o’i dystiolaeth arolygu.