Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Dinas Casnewydd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Honnwyd bod yr Aelod wedi gwneud cwyn am yr Achwynydd (“yr Achwynydd”) i’w gyflogwr; bod yr Aelod wedi defnyddio ei statws fel “Cynghorydd” wrth gyflwyno’r gŵyn a, thrwy wneud hynny, roedd yr Achwynydd yn teimlo bod yr Aelod wedi cam-drin ei safle.
Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon wybodaeth a gafwyd gan y Cyngor, cyflogwr yr Achwynydd (“y Cyflogwr”), yr Achwynydd a’r Aelod.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod yr Aelod wedi defnyddio ei deitl o “Gynghorydd” wrth gyflwyno’i gŵyn, y byddai statws yr Aelod fel cynghorydd wedi bod yn glir pe bai’n gorfod dogfennu pam ei fod yn dewis gwneud y gŵyn. Gwnaeth yr Achwynydd sylwadau am yr Aelod mewn arena gyhoeddus a oedd yn bryfoclyd ac yn sarhaus yn bersonol i’r Aelod. Gwnaeth yr Achwynydd honiadau difrifol am yr Aelod a oedd yn bersonol ac a allai fod yn niweidiol iddo. Roedd yn ddealladwy bod yr Aelod yn eu gweld fel ymgais gan yr Achwynydd i’w ddifenwi. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod gan yr Aelod hawl i herio a cheisio amddiffyn ei hun yn erbyn sylwadau o’r fath.
Dywedodd y Cyflogwr na roddwyd unrhyw bwys ar rôl yr Aelod pan ymchwiliodd i’w gŵyn. O ystyried bod sylwedd ei gŵyn yn canolbwyntio ar sylwadau’r Achwynydd amdano, yng nghyd-destun ei rôl fel aelod etholedig, byddai wedi bod yn amlwg ei fod yn gynghorydd, hyd yn oed pe na bai’r teitl wedi’i ddefnyddio. O dan yr amgylchiadau hyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd yn afresymol i’r Aelod lofnodi ei e-bost gyda’i deitl “Cynghorydd”.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Cod o dan Adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.