Cwynodd Mrs A am sut roedd y Cyngor wedi delio â’i chais cychwynnol am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl. Dywedodd nad oedd wedi ystyried yr holl opsiynau yn yr eiddo i ddarparu’r addasiadau gofynnol. O ganlyniad, roedd wedi gwneud cais am y Grant drwy lwybr “adweithiol” y Cyngor a oedd yn golygu trefnu ei chynlluniau a’i chostau ei hun. Fodd bynnag, bu oedi cyn iddi gyflwyno’r gwaith papur perthnasol, yn rhannol oherwydd ei salwch. Roedd y Cyngor felly wedi cau’r cais am grant ar sail amser.
Ar ôl asesu’r gŵyn, ni allai’r Ombwdsmon weld tystiolaeth, mewn perthynas â’r cais cychwynnol am y Grant, bod yr holl opsiynau wedi cael eu trafod gyda Mrs A, neu fod hyn wedi cael sylw yn yr ymateb i’w chŵyn. O ystyried amgylchiadau penodol yr achos hwn ac er mwyn bwrw ymlaen â’r cais presennol am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, cytunodd y Cyngor i ganiatáu estyniad o fis i alluogi Mrs A i gyflwyno’r gwaith papur perthnasol.