Dyddiad yr Adroddiad

15/08/2024

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202402005

Cwynodd Mr D am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei wraig gan y Practis.  Cwynodd am gyfathrebu gan gynnwys ei bod wedi mynd i apwyntiad a gafodd ei ganslo heb rybudd ymlaen llaw.  Cwynodd hefyd ei fod wedi gofyn am gopïau o gofnodion ei wraig ar 13 Mawrth 2024, er mwyn cyflwyno cwyn ffurfiol am ei gofal, ac na ddarparwyd y rhain iddo er iddo roi’r caniatâd gofynnol gan ei wraig.  Cwynodd Mr D nad oedd ei wraig wedi cael llenwadau parhaol er gwaethaf nifer o apwyntiadau ac yn lle hynny dywedodd ei bod wedi cael pregeth ar hylendid deintyddol.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr D wedi rhoi’r caniatâd angenrheidiol i gofnodion ei wraig gael eu rhyddhau iddo ond nad oedd y Practis wedi gweithredu ar hyn.  Felly, nid oedd Mr D wedi gallu cyflwyno cwyn ffurfiol am ei bryderon.  Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod Mr D wedi hysbysu’r Practis mai’r dull cyfathrebu a ffefrir ganddo oedd ebost.

Cytunodd y Practis, o fewn 4 wythnos, i roi ymddiheuriad ac esboniad i Mr D ynghylch pam na roddwyd cofnodion deintyddol ei wraig iddo.  Cytunodd hefyd i ddarparu copi o’r cofnodion i’w alluogi i gyflwyno cwyn ffurfiol.  Cytunodd y Practis hefyd i gadarnhau wrth Mr D fod y system wedi cael ei diweddaru gyda’i ddull cyfathrebu a ffefrir.  Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau y cytunwyd arnynt yn rhesymol a chafodd y gŵyn ei chau ar y sail hon.