Cwynodd Mrs L fod Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn mynd ar ôl ei mam am ôl-ddyledion Treth Gyngor ar gam. Dywedodd Mrs L ei bod wedi codi cwyn ffurfiol ym mis Ebrill ond nad oedd y Cyngor wedi ymateb.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mrs L. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mrs L i ymddiheuro am yr oedi, cynnig iawndal o £50 iddi am yr amser a’r anghyfleustra o wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.