Dyddiad yr Adroddiad

12/08/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202402200

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am broblemau parhaus o ran lleithder a llwydni yn ei heiddo.

Canfu’r ymchwiliad fod Ms A wedi cwyno i’r Gymdeithas o’r blaen am yr un mater a bod Arolygydd Cynnal a Chadw wedi archwilio’r eiddo, ynghyd â Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, ac wedi cadarnhau bod materion yr oedd angen mynd i’r afael â nhw.  Roedd y Gymdeithas wedi trefnu i’r datblygwr wneud gwelliannau a chwblhawyd y gwaith. Yn dilyn cwyn pellach Ms A, dywedodd y Gymdeithas ei bod wedi cyfarwyddo arolygwr lleithder/llwydni annibynnol i gynnal archwiliad a darparu adroddiad. Ar ôl derbyn yr adroddiad, dywedodd y Gymdeithas y bydd yn ymateb i gŵyn bellach Ms A o fewn 4 wythnos i ddyddiad y penderfyniad hwn ac yn gweithredu ar unrhyw ganlyniadau sy’n angenrheidiol.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau yr oedd y Gymdeithas wedi cytuno i’w cymryd yn rhesymol a bod y mater wedi’i setlo. Byddai Ms A yn gallu cysylltu eto â’r Ombwdsmon os nad oedd yn fodlon ar y canlyniad.