Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202402202

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ei bod wedi cyflwyno hawliad am gyllid ôl-weithredol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG ym mis Rhagfyr 2019 ac nad oedd wedi cael penderfyniad hyd yma. Dywedodd Ms A ei bod wedi mynd ar ôl y Bwrdd Iechyd am 4 blynedd a bod hyn yn annerbyniol yn ei barn hi.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ymddiheuro am yr oedi cyn rhoi penderfyniad i Ms A ac i ddarparu llythyr penderfyniad ar y Gofal Iechyd Parhaus o fewn 6 wythnos. Mae’r Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn rhesymol a bod y gŵyn wedi’i setlo.