Cwynodd Mr A, yn dilyn system newydd ar gyfer casglu sbwriel yn ei ardal, fod casgliadau sbwriel wedi cael eu methu. Pan godwyd cwyn am y mater hwn gyda Chyngor Caerdydd, sy’n gyfrifol am y casgliadau, bu oedi o ran yr ymateb a dderbyniwyd. Gofynnwyd am gael uwchgyfeirio’r mater ymhellach yn dilyn yr ymateb am fod Mr A yn cael problemau parhaus gyda’r casgliadau sbwriel ac nad oedd yr ymateb yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd Mr A wedi cael ymateb llawn i’w gŵyn a chysylltodd â’r Cyngor. Cytunodd y Cyngor i roi’r camau canlynol ar waith er mwyn datrys y gŵyn ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad ffurfiol:
· Darparu ymateb pellach yn dilyn y cais uwchgyfeirio o fewn pythefnos. Dylai hyn roi manylion i’r achwynydd am y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon.