Dyddiad yr Adroddiad

12/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202402741

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd Mr A yn bryderus nad oedd gwrthrych metel a gafodd ei adael ar ôl y tu mewn iddo, ar ôl ymchwiliad yn 2012, wedi cael ei dynnu’n llawfeddygol, fel y dywedwyd wrtho. Nododd Mr A fod sgan arbenigol yn 2023 wedi nodi “gwrthrych dieithr”. Yn dilyn llawdriniaeth yn 2023, dywedwyd wrth Mr A mai carreg ydoedd.  Roedd Mr A yn anhapus bod y Bwrdd Iechyd wedi gwaredu’r gwrthrych dieithr. Roedd hefyd yn anfodlon ar yr esboniadau a roddwyd gan y Llawfeddyg a oedd wedi tynnu’r gwrthrych. Nododd Mr A ei fod wedi bod mewn poen ddifrifol ers 2012.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Mr A wedi cael ymateb ffurfiol o dan y Rheoliadau Gweithio i Wella a fyddai’n mynd i’r afael â niwed. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwrdd â Mr A a’i Eiriolwr i drafod ei gŵyn a’r ffordd ymlaen, os oedd Mr A yn cytuno i hyn. Byddai’r Bwrdd Iechyd wedyn yn ysgrifennu at Mr A a’i Eiriolwr yn nodi’r pryderon gan ymateb i’r gŵyn yn unol â’r Rheoliadau Gweithio i Wella.