Cwynodd Mr P nad oedd Cyngor Sir Ceredigion yn casglu ei sbwriel yn rheolaidd.
Canfu’r Ombwdsmon, er gwaethaf sicrwydd gan y Cyngor y byddai’n sicrhau bod casgliadau’n cael eu gwneud, ei fod wedi parhau i fethu casglu gwastraff Mr P. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr P a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i wneud y canlynol o fewn 3 wythnos: ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr P; rhoi ymateb pellach i’r gŵyn sy’n egluro’r camau gweithredu neu’r cynllun y mae’n mynd i’w ddilyn i helpu i ddatrys materion; a rhoi sicrwydd ysgrifenedig i Mr P y bydd yn monitro’r mater yn rheolaidd i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gasglu ei wastraff yn y dyfodol.