Heddiw, mae’r Ombwdsmon yn cyhoeddi canfyddiadau’r ail ymchwiliad ar ei liwt ei hun*, sy’n canolbwyntio ar y broses o weinyddu asesiadau o anghenion gofalwyr gan 4 Awdurdod Lleol yng Nghymru – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae rhwng 10% a 12% o’r boblogaeth yn yr Awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt yn dynodi eu hunain yn ofalwyr di-dâl, yn ôl Cyfrifiad 2021.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, er bod gan ofalwyr hawl gyfreithiol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ‘asesiad o anghenion’ os yw’n ymddangos bod ganddynt anghenion cymorth, neu os ydynt yn debygol o fod ag anghenion yn y dyfodol, dim ond 2.8% o’r gofalwyr yn yr Awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt sydd wedi cael asesiad o’u hanghenion a dim ond 1.5% a gafodd asesiad a arweiniodd at gynllun cymorth.
Nodwyd rhai meysydd o arfer da ar draws y 4 awdurdod lleol ond mae adroddiad yr Ombwdsmon yn amlygu nifer o feysydd i’w gwella:
- Adnabod gofalwyr yn gynnar, i’w cefnogi trwy ymyrraeth ac atal cynnar a’u hatal rhag cyrraedd pwynt argyfwng cyn iddynt geisio cymorth – mae’n bwysig bod gofalwyr yn ymwybodol bod ganddynt hawl i gael asesiad o’u hanghenion ar wahân i’r person y maent yn gofalu amdano os ydynt am gael asesiad ar wahân;
- Nid rôl awdurdodau lleol yn unig yw adnabod gofalwyr yn gynnar, mae gan wasanaethau iechyd hefyd ran i’w chwarae ac mae angen cydweithio yn well;
- Mae angen dulliau gwell o gasglu data a defnyddio data cydraddoldeb;
- Mae angen monitro ansawdd a chysondeb asesiadau o anghenion gofalwyr yn well – pan fydd awdurdodau lleol yn contractio sefydliad arall i gwblhau asesiadau o anghenion gofalwyr ar eu rhan, maent yn parhau i fod yn gyfrifol am y gwasanaethau a dylent fonitro’r trefniadau cytundebol;
- Rhaid i Awdurdodau Lleol sicrhau bod eu staff a’r rhai a gyflogir gan sefydliadau eraill a gomisiynir i ddarparu gwasanaethau wedi’u hyfforddi’n briodol ar hawliau gofalwyr a sut i asesu anghenion gofalwyr.
Mae’r hyn a ddysgwyd o’r adroddiad hwn yn berthnasol i bob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru, drwy ei Grŵp Gweithredu Gweinidogol, eisoes yn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu a nodwyd.
Cliciwch yma i ddarllen 'A ydym yn gofalu am ein gofalwyr - Ymchwiliad Ar Ei Liwt ei Hun i weinyddiad asesiadau o anghenion gofalwyr yng Nghymru'
* Ymchwiliadau ‘ar ei liwt ei hun’ – Mae gan OGCC bwerau o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 i ymgymryd ag ymchwiliadau ‘ar ei liwt ei hun’, lle mae tystiolaeth yn awgrymu y gall fod methiant gwasanaeth systematig neu gamweinyddu. Mae hynny’n golygu y gall OGCC ymchwilio i fater y tu hwnt i’w effaith ar unigolyn a heb orfod aros am gŵyn. Ymchwiliadau ar ei liwt ei hun – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru