Heddiw rydym yn cyhoeddi ‘Byw mewn Cyflyrau Difrifol’, adroddiad thematig am gwynion tai i ni yn ymwneud â diffyg atgyweirio a lleithder a llwydni.

Cwynion Tai

Rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2024, roedd cwynion tai cyffredinol yn ffurfio 17% o’r holl gwynion a dderbyniwyd gennym – yr ail bwnc uchaf yn dilyn cwynion yn ymwneud â gofal iechyd (36%). Roedd bron i 800 o’r cwynion hynny yn gwynion am ddiffyg atgyweirio.

 

Themâu a Phwyntiau Dysgu

Mae ‘Byw mewn Cyflyrau Difrifol  – adroddiad thematig am gwynion tai i OGCC yn ymwneud â diffyg atgyweirio a lleithder a llwydni’, yn nodi’r themâu a’r pwyntiau dysgu canlynol:

  1. Cwyn neu gais am wasanaeth?: Ni ddylai fod yn rhaid i feddianwyr wneud cwyn i weld gwaith adfer yn cael ei wneud ac, yn yr un modd, ni ddylent orfod mynd ar ôl cyrff cyhoeddus dro ar ôl tro er mwyn cychwyn cwyn. Pan fo’n rhaid i feddiannydd wneud hyn, rydym o’r farn bod y corff cyhoeddus wedi cael cyfle rhesymol i ymateb i’r materion a godwyd.
  2. Ansawdd arolygiadau cyn gosod: Ar y pwynt gosod, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i landlordiaid sicrhau bod eiddo mewn cyflwr da ac yn ffit i fyw ynddo. Mae’r Adroddiad yn amlygu tystiolaeth o arolygiadau cyn gosod o ansawdd amheus mewn rhai o’r cwynion a dderbyniwyd gennym.
  3. Deiliaid mewn sefyllfaoedd agored i niwed: Mae’r Adroddiad yn rhoi tystiolaeth o sawl enghraifft achos o feddianwyr mewn sefyllfaoedd agored i niwed a fyddai wedi aros gryn dipyn yn hirach i’r gwaith angenrheidiol gael ei gwblhau, oni bai am ymyrraeth ein swyddfa.
  4. Ymdrin â Chwynion: Mae’r Adroddiad yn rhoi tystiolaeth o sawl enghraifft o achosion lle mae ymatebion i gwynion yn cael eu gohirio yn ôl pob golwg tra bod y corff yn gwneud rhywfaint o waith yn y cyfamser, efallai i’r ymateb wneud i’r corff edrych yn dda, neu’r corff yn methu â chofnodi cwyn yn gywir.

Mae’r Adroddiad hefyd yn tynnu sylw at dystiolaeth gadarnhaol o arfer da mewn perthynas â cheisio barn broffesiynol yn ystod ymchwiliad corff cyhoeddus i gŵyn, gan ddangos ymchwiliad cadarn ac awydd gan y landlord i ddod o hyd i’r rheswm am y mater.

 

Argymhellion yr Adroddiad

Mae’r Adroddiad yn cynnwys yr argymhellion canlynol i bob landlord sector cyhoeddus/cymdeithasol yng Nghymru:

  • cynnal arolwg stoc, i nodi’n well eiddo sy’n dioddef o leithder a llwydni, neu mewn perygl o hynny;
  • cynnal arolygiad cyn gosod llawn a phriodol cyn bod deiliad yn symud i mewn ac yn cwblhau’r holl waith angenrheidiol cyn i’r ddeiliadaeth ddechrau;
  • cofnodi ceisiadau gwasanaeth ailadroddus fel cwynion, pan nad yw gwaith wedi’i wneud;
  • defnyddio syrfewyr annibynnol i archwilio eiddo lle mae cwynion wedi’u gwneud am ddiffyg atgyweirio difrifol.

“Mae’r cysylltiad rhwng tai gwael ac iechyd wedi’i ddogfennu’n dda ac yn ffynhonnell sylwadau dros nifer o flynyddoedd.

Rwy’n bryderus ynghylch y diffyg rhagweithioldeb tebygol gan lawer o landlordiaid i nodi a mynd i’r afael â’r eiddo hynny sy’n dioddef o leithder/llwydni, a’u bod yn hytrach yn aros i’r deiliaid dynnu sylw at y mater.

Fel y mae ein gwaith achos yn dangos, mae’n ymddangos mai dim ond pan fydd arolygiadau ac arolygon priodol yn cael eu cynnal, neu pan fydd fy swyddfa'n dod yn gysylltiedig, y bydd landlordiaid yn gweithredu. Yn y pen draw, po hiraf y bydd mater yn cael ei anwybyddu, y mwyaf costus fydd ei unioni ac mae’n gwneud synnwyr busnes da i fod yn rhagweithiol.

Rwy’n galw ar landlordiaid sector cyhoeddus/cymdeithasol i fyfyrio ar fy
adroddiad, i weithredu fy argymhellion ac i ymgysylltu â’n Tîm Awdurdod Safonau Cwynion i baratoi ar gyfer mabwysiadu ein polisi enghreifftiol a hyfforddiant ar drin cwynion.”

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: