Cwynodd Miss P ei bod wedi cael problemau gydag arogleuon ymwthiol yn dod o fflatiau eraill ers iddi symud i’w heiddo dros 10 mlynedd yn flaenorol. Dywedodd ei bod wedi bod yn rhoi gwybod am y mater ers 2015 ond nad oedd y Gymdeithas Dai wedi datrys y broblem yn llawn. Ym mis Chwefror 2023, cafodd gwaith ei wneud a lwyddodd i ddatrys y broblem yn ei hystafell ymolchi, ond cwynodd fod yr un broblem yn parhau yn ei chegin. Dywedodd nad oedd yn credu y byddai cynnig y Gymdeithas Dai i dynnu rhai unedau a bwrw golwg dros seliau’r pibellau yn datrys y broblem, a bod angen gwneud gwaith mwy helaeth. Cwynodd hefyd na wnaeth yr ymateb i’r gŵyn ystyried ers faint o amser roedd wedi bod yn cwyno a’i fod wedi anwybyddu gohebiaeth anffurfiol ynglŷn â’r problemau a diystyru tystiolaeth arall a oedd ganddi. Dywedodd fod rhai o’r sylwadau a wnaed gan y swyddog ymchwilio yn nawddoglyd ac yn goeglyd.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd y Gymdeithas Dai wedi gofyn am wybodaeth berthnasol gan Miss P wrth gynnal ei hymchwiliad. Er bod yr Ombwdsmon o’r farn bod cynnig y Gymdeithas Dai i ailarchwilio’r pibellau yng nghegin Miss P yn ymateb rhesymol, gellid deall pam roedd Miss P yn teimlo nad oedd ei phryderon wedi cael sylw digonol a pham ei bod yn amharod i dderbyn y cynnig a wnaed.
Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Gymdeithas Dai i ymddiheuro i Miss P am beidio â gofyn am yr holl dystiolaeth berthnasol a oedd ganddi ynghylch y gŵyn, i’w hystyried fel rhan o’i hymchwiliad. Cytunodd hefyd, yn amodol ar gydsyniad Miss P, i archwilio seliau’r pibellau gyda’r bwriad o wneud unrhyw waith pellach sy’n angenrheidiol i sicrhau ateb hirdymor.