Dyddiad yr Adroddiad

04/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202310363

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs G am safon y gofal nyrsio a roddwyd i’w diweddar fam, Mrs F, pan oedd yn glaf mewnol ar ward adsefydlu. Cododd Mrs G bryderon ynglŷn â mynediad at hylifau, meddyginiaeth, ac achlysuron pan na ofalwyd am Mrs F mewn ffordd urddasol. Nid oedd Mrs G yn teimlo bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi ateb ei hymholiadau’n briodol.

Ar ôl ymchwilio i’r gŵyn, derbyniodd y Bwrdd Iechyd na wnaeth agweddau ar y gofal gyrraedd safon dderbyniol, a nododd feysydd i’w gwella, sef:

· Rheoli meddyginiaeth

· Sicrhau y caiff urddas mewn gofal ei gynnal bob amser

· Dogfennu cyfarfodydd y tîm amlddisgyblaethol clinigol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon am y wybodaeth ddiweddaraf am y camau roedd y Bwrdd Iechyd wedi’u cymryd ar y pwyntiau hyn. Yn ogystal â hynny, roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn briodol i gŵyn Mrs G am reoli hylif a chymorth i yfed.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol o fewn pedair wythnos:

1. Rhoi cadarnhad a thystiolaeth i swyddfa’r Ombwdsmon o’r camau a gymerwyd ar y pwyntiau dysgu yn dilyn ei ymchwiliad ei hun i’r gŵyn.

2. Archwilio’r materion a godwyd gan Mrs G ynglŷn â sicrhau lefelau hydradu a’r cymorth penodol a roddwyd i Mrs F o ran yfed, a rhoi ymateb pellach i Mrs G er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn. Bydd yr ymateb hwn hefyd yn cynnwys cadarnhad o’r camau y mae’r Bwrdd Iechyd wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r tri phwynt dysgu o’i ymchwiliad gwreiddiol.